back to homepage
Cymraeg Cymraeg   English English    
Welcome to the Pontarddulias Male Choir website   

 

 » Cartref
 » Siop Ar-lein
 » Rhoddion
 » Hanes y Côr
 » Gorchestion
 » Newyddion
 » Cyngherddau
 » Llyfr Gwestai
 » Aelodau’r Côr
 » Noddwyr y Côr
 » Pwysigion
 » Noddwyr Busnes
 » Ffotograffau
 » Dolenni Defnyddiol
 » Adran Aelodau
 » Cysylltu

Gwerthusiad Cyfartalog
5 out of 55 out of 55 out of 55 out of 55 out of 5
» Gwerthuso’n Gwefan «
Rhifydd Ymwelwyr
2,113,974
Visitors logged since
1st December 2001

 

Croeso i Wefan Côr Meibion Pontarddulais - y côr meibion cystadleuol mwyaf llwyddiannus yng Nghymru. Mae Côr Meibion Pontarddulais hefyd yn enwog ledled y byd, wedi canu mewn sawl gwlad yn Ewrop yn ogystal â Chanada a’r Unol Daleithiau.

Llun o'r Côr yn perfformio yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen 2011
Llun wedi’i gopïo gyda chaniatâd caredig Lluniau Llwyfan.

Mae Côr Meibion Pontarddulais yn falch o fod wedi ymestyn ei record ac ennill ei pump fuddugoliaeth ar ddeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda’r diwethaf yn Caerdydd yn 2008.

Hefyd yn 2001 a 2004 enillodd Côr Meibion Pontarddulais y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth y Corau Meibion yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Cynhwysa buddugoliaethau eraill ddeg wobr gyntaf yn Eisteddfod Ceredigion, pump yn Eisteddfod Glowyr Porthcawl a dwywaith yn Eisteddfod Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid.

Cysylltwch â ni os hoffech fwcio Côr Meibion Pontarddulais, neu ewch i adran cyngherddau y wefan i weld rhestr o ymrwymiadau sydd wedi’u cadarnhau..

Aelodau Newydd - Er mwyn cynnal llwyddiant parhaol Côr Meibion Pontarddulais mae’n hanfodol fod nifer y coryddion yn cael ei gynnal. O ganlyniad rydyn wastad yn hapus i groesawu aelodau newydd o bob oedran. Os oes gennych ddiddordeb mewn canu yna dewch i unrhyw ymarfer - ar gyfer profiad y “Bont” neu cysylltwch ag , y côr, Lyn Anthony am fwy o wybodaeth. Gallwn sicrhau fod y côr presennol yn cynnwys amrywiaeth o allu lleisiol - does dim angen bod yn Bryn Terfel neu’n Tom Jones i fod yn aelod o Gôr y Bont.

Ymarfer Côr - Yn Ysgol Gynradd Pontarddulais, Stryd James, Pontarddulais, bob nos Lun a nos Fercher rhwng 7pm a 9pm, heblaw am fis Awst a Gwyliau Banc a Chyhoeddus. Croesewir ymwelwyr ond awgrymir eich bod yn gwirio gyda’r am amrywiadau.

Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau ymweld â’n gwefan. Ymdrechwn i’w gadw’n ffres ac i gynnwys yr holl newyddion diweddaraf am ein sefydliad. Os hoffech weld rhestr o aelodau presennol Côr Meibion Pontarddulais, ewch i adran Aelodau’r Côr.

Gobeithiwn hefyd y byddwch yn cymryd mantais o’n Llyfr Gwesteion, hyd yn oed os mai ond dweud “helo” ydych chi neu i roi sgôr i’r wefan!

 

Let All Men Sing
CD Recording - Let All Men Sing
£12.00

Cyngherddau’r dyfodol
 
» 03/03/2012 «
» 21/04/2012 «
» 09/06/2012 «
» 07/07/2012 «
» 24/07/2012 «
» 15/09/2012 «
» 24/11/2012 «
» 16/12/2012 «
 
Cliciwch ar unrhyw ddyddiad
am ragor o fanylion.