Ystyr Pontarddulais yw pont dros y dwr tywyll, rhuthrol.
Er bod yr enw yn fwy na 300 blwydd oed, mae hanes yr ardal yn dyddio'n
ôl o leiaf 500 mlynedd. Mae tystiolaeth o wladfeydd o'r Oes Efydd
a'r Oes Haearn, meini hirion, gwyddgrugiau a chrugiau sy'n amlhau
ar hyd y dyffryn y safant ynddo a'r bryniau amgylchynol.
Roedd un gofeb Normanaidd, a oedd yn sefyll tan yn gynharach y ganrif hon, yn bont cerrig bwaog godidog. Yn fuan fe adeiladwyd tafarnau a phreswylfeydd o'i hamgylch a ffurfiwyd cymuned.
Gan ddefnyddio pwer yr afon gyflym, lifeiriol, melinau llifanu, melinau gwlân, gwlanen a lliwio cnu, sefydlwyd ostleriaid, gefeiliau gof a chynhyrchwyr gwneud esgidiau, menig a hetiau.
Trwy gydol yr Oesoedd Canol blodeuodd y diwydiannau hyn ochr yn ochr, yn anochel, a'r diwydiannau mwyngloddio, amaethyddol a physgota. Rhwydwyd eog, gleisiaid a llyswennod o gwryglau hyd nes troad y ganrif.
^ brig
Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y pentref yn un o ganolbwyntiau 'Terfysgoedd Beca'. Hyd yn oed yn ystod helbul y terfysgoedd cwblhawyd rheilffordd ar hyd y dyffryn fel bod y trenau stêm cyntaf, yn weithredol mor gynnar ag 1840, yn cysylltu'r hen drefgordd gydag ardaloedd newydd ddiwydianeiddiol Lloegr.
Ym 1866 dechreuodd y cyntaf o saith gwaith tunplat weithredu ac o fewn ychydig dros ddegawd cynyddodd y boblogaeth o 1,200 i 10,000.
Daeth y mewnfudwyr yn bennaf o orllewin gwledig Cymru, ac felly fe fwyhaodd yr iaith, yr arferion a'r diwylliant. Roedd hyn yn arbennig o ran y traddodiad o greu cerddoriaeth.
^ brig
Chwaraeodd grefydd ran bwysig iawn yn nyddiau cynharaf y gymuned. Credir mai'r Eglwys gyntaf oedd yr Hen Eglwys ar y Gors sy'n ymddangos ar fathodyn y côr.
Mae'n debygol y ffurfiwyd yr Eglwys yn wreiddiol fel Eglwys Geltaidd yn nhua'r chweched ganrif AD cyn dod yn Gristnogol rhywbryd yn y bymthegfed ganrif.
Adeiladwyd y Capeli Anghydffurfiol cyntaf mor gynnar ag 1717 er i Anghydffurfiaeth fod yn ymarferol yn anghyfreithlon mewn tai preifat am sawl blwyddyn cyn hyn.
^ brig
Gyda chyfyngiad y diwydiant tunplat mae'r pentref wedi colli ei wisg fyglyd, frwnt ac wedi dychwelyd i fod yn bentref tawel ond bywiog.
Yn ffodus, mae'r traddodiad cerddorol yn dal i fyw, ac mae'r côr yn gynnyrch o'r diwylliant canrifoedd-oed.
^ brig
|