Cyhoeddodd Noel Davies ei fwriad i ymddeol fel arweinydd Côr Meibion Pontarddulais yn 2002, ar ôl 41 o flynyddoedd wrth y llyw. Roedd yn wr uchel ei barch ym myd canu corau meibion yng Nghymru. Arwydd o’i enw da oedd y gwahoddiadau a gawsai i arwain a beirniadu. Yn ystod ei yrfa bu’n arwain corau meibion unedig yn Neuadd Albert Llundain, Cymanfa Ganu Gogledd America, a chymanfa ganu’r Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith. Roedd yn aelod o’r Orsedd ac fe’i hanrhydeddwyd gyda’r MBE am ei gyfraniad i ganu corawl. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Tregwyr a Choleg Y Drindod, Caerfyrddin. Bu’n Brifathro Ysgol Gynradd Cila, Abertawe, cyn ei ymddeoliad.
Wrth gyhoeddi ei fwriad i ymddeol fel y Cyfarwyddwr Cerdd dywedodd Mr Davies, "Bu’r penderfyniad hwn yn un o’r rhai anoddaf i mi wneud erioed. Cefais 41 o flynyddoedd gyda’r côr gorau posib. Cawsom lwyddiannau mawr dros y blynyddoedd, a gyda’r fuddugoliaeth yn Eisteddfod Gydwladol Llangollen yn 2001, teimlaf yr amser yn iawn i drosglwyddo’r awenau i’m holynydd."
Sylw olaf Noel i’r côr cyn iddynt gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod ar 9 Awst 2003 oedd "Gwnewch hi’n ddeuddegfed, fechgyn". Rydym yn ymfalchïo ein bod wedi ennill y gystadleuaeth am y deuddegfed tro, er anrhydedd I Noel.
|